EleanorTHOMAS(Nel) Yn dawel ar ddydd Sul, Tachwedd 1, 2015 yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin hunodd Nel gynt o Ty Capel Bancyfelin, Llangrannog a Brynglas, Aberporth yn 91 mlwydd oed; priod hoff y diweddar Wil, mam ofalus Goronwy a Hywel, mam-yng-nghyfraith barchus Sue a chwaer dyner Kate; modryb a ffrind annwyl. Gwasanaeth angladdol preifat yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth ddydd Gwener, Tachwedd 6 am 1.45 o'r gloch. Dim blodau, ond derbynnir cyfraniadau er cof os dymuner er budd y deiliaid yng Nghartref Gofal Hafan Deg, Llanbedr Pont Steffan trwy law Maldwyn Lewis, Ymgymerwr Angladdau, Afallon, Penrhiw-pal, Llandysul, Ceredigion, SA44 5QH. Ffon 01239 851 005.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Eleanor